Tudalen 1 o 4

gmail

PostioPostiwyd: Mer Awst 31, 2005 11:46 pm
gan Hedd Gwynfor
Oes modd arwyddo lan am gmail? Sut mae gwneud?

Does dim unrhyw fwtwm i arwyddo lan yma:

http://mail.google.com

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 12:42 am
gan Cymro Sinistr
Dwi'n meddwl fod rhywun yn gorfod dy wahodd i ymuno, wel, dyna oedd o beth bynag...

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 9:26 am
gan nicdafis
Gwahoddiad yn y post Hedd.

Unrhywun arall?

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 9:22 pm
gan Cymro Sinistr
Wwww, fi plis :D

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 9:38 pm
gan Al
Cymro Sinistr a ddywedodd:Wwww, fi plis :D


NB dy gyfeiriad e-bost ti i fi, a nai yrru gwahaodd i ti :D

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 9:39 pm
gan Cymro Sinistr
Thanciw big :D

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 10:19 pm
gan Manon
Arddangosaf fy nynsrwydd... be' 'di gmail? :wps:

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 10:25 pm
gan sian
Manon a ddywedodd:Arddangosaf fy nynsrwydd... be' 'di gmail? :wps:


Ti'm yn gwbod be di gmail? Twt, twt.
Na fi chwaith - ond bydd Efan yn gwbod be di gmail cyn i ti droi rownd.

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 10:38 pm
gan Manon
sian a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:Arddangosaf fy nynsrwydd... be' 'di gmail? :wps:


Ti'm yn gwbod be di gmail? Twt, twt.
Na fi chwaith - ond bydd Efan yn gwbod be di gmail cyn i ti droi rownd.


:ofn:

PostioPostiwyd: Iau Medi 01, 2005 11:36 pm
gan Dr Gwion Larsen
Cyfrif e-bost sydd yn dal llawer iawn o le (2552 MB ar y funud), mae'r capacity yn codi o hyd, a'r syniad ydi na fyddi byth yn gorfod dileu neges arall!

Mae google yn gwneud popeth naw yntydyn!