Daeth un Llafur drwy'r post heddiw. Rhodri Jones ydi'r ymgeisydd New Labour yma yn Meirionnydd, boi ifanc wedi ei daflu i ffau'r llewod yn yr etholaeth am fod ganddo enw runfath a'i fos...
Bu Rhodri ar raglen Kevin Davies ar C2 neithiwr, a pob parch, prin oedd o'n gallu rhoi dau air at ei gilydd heb son am gyflwyno achos ei blaid.
Mae ei bamffled yn ddifir, ond dim am y rhesymau iawn. Ar y ffrynt mae llun ohonno ar safari rhywle yng nghefn gwlad Cymru, a dwi'n siwr mai'r Moelwyn sydd tu ol iddo yn y pellter (mae'r llun wedi ei dorri jest uwchben y ffwthills). Tu mewn mae o'n deud 'Llafur sydd yn creu gwaith'. Cyn imi gael siawns i ofyn i fi fy hun 'yn lle?' darllenais ymlaen. Cewch chi gyfri'r camgymeriadau ieithyddol...
Mae pleidlais i Lafur bob amser yn bleidlais am swyddi. Mae Llafur wedi dod a'r cyfnod o ddiweithdra tarfol i ben. Mae Llafur wedi sefydlu isafswm cyflog cenedlaethol fydd yn codi i £5.35 yr awr erbyn yr hydref nesaf. Ond mae llawer mwy i ddod a swyddi gyda cyflogau da i'r ardal.
oh, goody!
Yna mae llun o Rhodri efo'r 'tangerine dream' Peter Hain. Political suicide mewn etholaeth mor wledig. Efo'r llun mae'r capsiwn (eto, dwi'n cynnwys y camgymeriada) Mae diwithdra y Meirionnydd Nant Conwy yn llai na hanner beth oedd yn 1997.
A'r difyrwch a'r iaith wallus yn eu blaenau... Mae Plaid Cymru wedi methu yn Meirionnydd Nant Conwy. Mae'n holl bwysig ein bod yn diogeli ein hanes a'n traddodiadau on nid Plaid Cymru all sicrhau hynny. Gall Llafur gyflawni llawwer mwy drwy gweithio efo pobl o rannau eraill o Gymru, Prydain a Ewrop. Rhaniadau mae Plaid Cymru yn ei gynnig.
Ac ymlaen at Rhods ei hun, a'i iaith raenus...
"Cefais fy magu yn Nyffryn Nantlle ac mae fy nhelu o Lanfrothen. Mae Llafur yn buddsoddi arian - fel yn yr ysbyty newydd ym Mhorthmadog. Mae ein cymunedau i gyd yn elwa o wariant cyhoeddus Llafur - ond mae llawer mwy y gellid ei gyflawni be bae yna Aelod Seneddol Llafur"
A dyma weledigaeth hynod fanwl Super Rhodri i Feirionnydd Nant Conwy -
- eich teulu'n well eu byd
- eich plentyn yn cyflawni mwy
- caiff eich plant y cychwyn gorau (
- eich teulu'n cael eu trin yn well ac yn gynt
- eich cymuned yn fwy diogel
- caiff ffiniau'ch gwlad eu gwarchod
Dwi'n edrych ymlaen at bamffled y Toris wan. Gyda llaw, oes rhywun wedi gweld Tori, neu unrhyw ymgeisydd arall, o gwmpas yn yr ymgyrch hon???




