spellcheck Cymraeg yn Firefox 2.0

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

spellcheck Cymraeg yn Firefox 2.0

Postiogan marnanel » Gwe Tach 03, 2006 2:28 pm

Dw i wedi pacio geiriadur Cymraeg am Firefox 2.0 ddoe; dyma'r dudalen lawrlwythio.

(Sori am fy Nghymraeg ofnadwy. Dw i'n dim ond dysgwr.)
"rwyt ti'n gyrru fel Philadelphian"
Rhithffurf defnyddiwr
marnanel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Mer Rhag 17, 2003 5:37 am

Postiogan Llefenni » Gwe Tach 03, 2006 2:57 pm

Diolch llwythi am hwn :D

Bril!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1664
Ymunwyd: Maw Maw 16, 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe Tach 03, 2006 6:03 pm

Os rwyun yn gwybod lle gallaf cael afael a'r fersiwn Gymraeg o Firefox 2.0 ?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2240
Ymunwyd: Maw Hyd 22, 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Diolch Maranel

Postiogan Ugain I Un » Maw Tach 07, 2006 8:44 am

Briliant!!! DIOLCH yn fawr iawn i Marnanel

Ond - Fel y neges diweddaf dwi ddim yn deall beth sydd wedi digwydd i Firefox yn y Gymraeg? Mae rhestr ar gyfer llwytho i lawr fersiwn 2.0 yn cynnwys Frisian, Lithuanian a Gwyddeleg ond dim Cymraeg. Roedd hi yna gyda fersiynau gynharach – ond dim nawr?

Rhywun yn gallu rhoi eglurhad?
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw Awst 01, 2006 10:57 am

Postiogan dylunio » Maw Tach 07, 2006 9:05 am

Y pobl yn meddal.com sy'n cyfieithu FireFox i'r Gymreag. Dwi'n cymeryd maen't dal i cyfieithu'r holl llinynau i'r Gymreag, mae hyn yn gallu cymeryd ameser gan ei bod yn gwirfoddolwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
dylunio
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau Medi 21, 2006 9:17 pm

Postiogan marnanel » Llun Tach 13, 2006 6:09 pm

Mae'r restr cyfieithwyr yn y wiki Mozilla yn dweud fod Dewi Jones a Rhoslyn Prys o http://www.gwelywiwr.org/ yn atebol. Ond chafodd y seiat 'na ddim ei diweddaraf ers fersiwn 1.0. :(
"rwyt ti'n gyrru fel Philadelphian"
Rhithffurf defnyddiwr
marnanel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Mer Rhag 17, 2003 5:37 am

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw Tach 14, 2006 12:51 am

ei,ma'r gwiriwr yn wych! ?Da iawn pwy bynnag esgorodd arno fo!!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3448
Ymunwyd: Maw Chw 22, 2005 5:26 pm
Lleoliad: Caergrawnt

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw Tach 14, 2006 9:52 am

marnanel a ddywedodd:Mae'r restr cyfieithwyr yn y wiki Mozilla yn dweud fod Dewi Jones a Rhoslyn Prys o http://www.gwelywiwr.org/ yn atebol. Ond chafodd y seiat 'na ddim ei diweddaraf ers fersiwn 1.0. :(


Ydy'r gwaith cyfiethu yma ar gyfer Firefox 2 yn digwydd ar hyn o bryd? Os ddim, oes unrhyw un yn gallu gwneud y gwaith?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6073
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 12:51 pm
Lleoliad: Pontyberem

Ein difaterwch ni

Postiogan Ugain I Un » Maw Tach 14, 2006 11:37 am

Dwi'n poeni bod y Gymraeg yn bell ar ei hol hi - er gwaethaf holl ymdrechion Canolfan Bedwyr ac eraill. Dylen ni ddim jyst disgwyl i'r pethau yma i ymddangos - tybed oes modd gwneud rhywbeth? Ydy Firefox yn cod agored? Os felly gall rhywun helpu cyfieithu.

Tybed a gallwn ni - criw MaesE - mynd ati i gyfieithu'r diweddariad o'r fersiwn blaenorol.

Mae nifer o raglenni'n defnyddio ieithoedd bychan ond heb ddim fersiwn Gymraeg.
Mae'n ymddangos bod difaterwch y Cymry unwaith eto sydd ar bai am ddiffyg defnydd o'r Gymraeg ?

A nid cyfrifaduron yn unig - mae ffrind fi wedi cael set teledu newydd sbon. Mae'r dewisiadau ar y sgrin ar gael yn pob fath o ieithoedd - yn cynnwys Basgeg - ond dim Cymraeg.
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw Awst 01, 2006 10:57 am

Re: Ein difaterwch ni

Postiogan dafydd » Maw Tach 14, 2006 12:13 pm

Ugain I Un a ddywedodd:Dwi'n poeni bod y Gymraeg yn bell ar ei hol hi - er gwaethaf holl ymdrechion Canolfan Bedwyr ac eraill. Dylen ni ddim jyst disgwyl i'r pethau yma i ymddangos - tybed oes modd gwneud rhywbeth? Ydy Firefox yn cod agored? Os felly gall rhywun helpu cyfieithu..

Dyma un peryg o'r gwaith o gyfieithu rhaglenni fel Firefox yn cael ei 'cloi' fewn i sefydliadau fel CB. Ar yr un llaw mae gwaith cyfieithu CB a sefydliadau 'swyddogol' arall yn drylwyr ac o safon uchel. Ar y llaw arall mae rhan fwyaf o'r cyfieithiadau Cymraeg o feddalwedd a gwefannau wedi eu gwneud yn y gorffennol gan wirfoddolwyr sydd ac amser ar ei dwylo. (a felly yn gallu gwneud y gwaith 'heddiw' nid 6 mis ar ôl i'r meddalwedd gael ei ryddhau)

O ran Firefox dwi ddim yn meddwl fod y cyfieithiad Cymraeg erioed wedi bod yn rhan o god craidd y meddalwedd a dwi ddim yn deall pam.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2119
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig a 0 gwestai