Technoleg yn Gymraeg - 100% yn dweud NA

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Technoleg yn Gymraeg - 100% yn dweud NA

Postiogan Ugain I Un » Gwe Maw 23, 2007 9:41 am

Mae Bwrdd yr Iaith newydd cyhoeddi arolwg ar ddefnydd technoleg yn Gymraeg, a gynhalwyd ymhlith sefydliadau, ysgolion a’r cyhoedd yn ardal Amlwch, Ynys Môn. Felly mae’r adroddiad yn cyfle da ini ddeall agweddau a profiadau pobl mewn ardal Cymraeg o ddefnyddio meddalwedd Cymraeg

Mae’r adroddiad yn cynnwys y dau graff canlynol -

Ydy'r Rhyngwyneb Cymraeg/Meddalwedd Swyddfa ar eich cyfrifiadur yn y gwaith?
100% - yn ateb ‘nac ydy’

Ydy'r Rhyngwyneb Cymraeg/Meddalwedd Swyddfa ar eich cyfrifiadur gartref?
100% - yn ateb ‘nac ydy’

Dwisio crio!
Mae’n gadarnhau’r pwyntiau sydd wedi’u trafod ar y seiat yma ar Maes E yn diwedda.

Rydan ‘ni’ (ymgyrchwyr iaith) wedi llwyddo i newid agweddau ynglyn ag Addysg, Arwyddion Ffyrdd, Sianedl Deledu, Canu Roc yn Gymraeg. Mae’n amlwg mai TG yw’r her mwyaf nesaf.


Mae’r adroddiad ar gael o:
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwy ... 3&langID=1
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw Awst 01, 2006 10:57 am

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe Maw 23, 2007 10:06 am

Onid rôl Bwrdd yr Iaith yw hyrwyddo pethau fel hyn? Pam nad yw'r Bwrdd wedi danfon pecyn at bob sefydliad cyhoeddus (gan gynnwys y sector addysg) gyda manylion ynglyn a'r holl raglenni Cymraeg y mae modd eu prynu, neu ei lawrlwytho am ddim, cyfarwyddiadau ar sut i osod fersiwn Cymraeg o Windows ar eich Cyfrifiadur ayb.

Mae fy ngwraig inne yn athrawes mewn ysgol Gynradd yn Sir Gâr, a doedd dim syniad ganddi fod meddalwedd Cymraeg yn bodoli nes i mi fynd i'r ysgol a gosod pob dim ar y cyfrifiaduron :winc:

Ond ma rhaid i hyn fod yn rhywbeth startegol, gyda'r Bwrdd yn cymryd arweiniad, er mwyn normaleiddio'r defnydd o feddalwedd Cymraeg. Byddai addysgu pawb sydd mewn ysgolion/colegau 6ed/prifysgolion Cymru bod fersiynnau Cymraeg ar gael yn ddechreuad da.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6073
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 12:51 pm
Lleoliad: Pontyberem

Postiogan Rhys » Gwe Maw 23, 2007 10:10 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Onid rôl Bwrdd yr Iaith yw hyrwyddo pethau fel hyn? Pam nad yw'r Bwrdd wedi danfon pecyn at bob sefydliad cyhoeddus (gan gynnwys y sector addysg) gyda manylion ynglyn a'r holl raglenni Cymraeg y mae modd eu prynu, neu ei lawrlwytho am ddim, cyfarwyddiadau ar sut i osod fersiwn Cymraeg o Windows ar eich Cyfrifiadur ayb.



Synnwn i ddim nad ydi'r Bwrdd wedi danfon copi(au) o'r CD at y sefydlaidau, mond bod nhw wedyn ddim yn eu defnyddio. Mae'r adroddiad yn un trist.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2175
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe Maw 23, 2007 10:34 am

Rhys a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Onid rôl Bwrdd yr Iaith yw hyrwyddo pethau fel hyn? Pam nad yw'r Bwrdd wedi danfon pecyn at bob sefydliad cyhoeddus (gan gynnwys y sector addysg) gyda manylion ynglyn a'r holl raglenni Cymraeg y mae modd eu prynu, neu ei lawrlwytho am ddim, cyfarwyddiadau ar sut i osod fersiwn Cymraeg o Windows ar eich Cyfrifiadur ayb.


Synnwn i ddim nad ydi'r Bwrdd wedi danfon copi(au) o'r CD at y sefydlaidau, mond bod nhw wedyn ddim yn eu defnyddio. Mae'r adroddiad yn un trist.


Ond dyw danfon cd ddim yn ddigon. Rhaid lobio cyson, cwrdd gyda'r person sydd yng ngofal TG y sefydliad - hyd yn oed ymweld a'r sefydliadau i osod y meddalwedd ar y sustemau ayb. Efallai bod y bwrdd yn gwneud hyn, neu'n golygu gwneud hyn. Gobeithio wir. Ond buais yn siarad gyda gofalwr TG Ysgol Uwchradd ddwyieithog lleol yn ddiweddar, ac nid oedd erioed wedi clywed am Windows Cymraeg, Firefox Cymraeg na chwaeth am unrhyw feddalwedd Cymraeg arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6073
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 12:51 pm
Lleoliad: Pontyberem

'Dim ond trwy ddulliau chwyldroadol etc...'

Postiogan Ugain I Un » Gwe Maw 23, 2007 12:16 pm

Dwi'n meddwl bod pobl fel criw T.G. Bwrdd yr Iaith, Canolfan Bedwyr a Chymdeithas Meddalwedd Cymru yn neud gwaith gret yn datblygu'r meddalwedd. Dwi'n wirioneddol teimlo'n bechod drostyn nhw - ar ol eu holl ymdrechion a llafur o gariad - does neb yn defnyddio'r fersiynau Cymraeg.

Mae'r Bwrdd yr Iaith yn neud ffys am fesuriadau eithaf di-ddim fel eu
cyhoeddiad ddoe am y 59 sefydliad sydd bellach yn gorfod neud Cynllun Iaith. Ond sneb yn coelio'n go iawn bydd polisi dwyieithog gan y Cyngor Ceiropratic neu'r Cyngor Datblygu Llaeth yn neu lot o wahaniaeth.

Mae propaganda y sefydlaid yn rhoi'r argraff bod pob dim yn lot well na'r
realiti. Felly y mae ym mob maes - nid dim ond T.G.

'Dim ond trwy ddulliau chwyldroadol etc...'
Mae'n dal mor wir heddiw ag erioed.
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw Awst 01, 2006 10:57 am

Postiogan sanddef » Gwe Maw 23, 2007 1:05 pm

Dim syndod mewn gwirionedd, o ystyried nad yw TG Cymraeg yn cael digon o sylw yn y cyfryngau.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun Hyd 04, 2004 9:27 am

Postiogan Rhys » Gwe Maw 23, 2007 2:59 pm

Mae canlyniadau siomedig yr adroddiad yn cael eu blogio amdanynt yma hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2175
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gog yn y De » Gwe Maw 23, 2007 4:11 pm

Rhys a ddywedodd:Mae canlyniadau siomedig yr adroddiad yn cael eu blogio amdanynt yma hefyd


Dim yn weithio...
Not Found

The requested URL /posts/2007/03/23/is-it-curtains-for-welsh-windows was not found on this server.
Rhithffurf defnyddiwr
Gog yn y De
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 75
Ymunwyd: Mer Gor 21, 2004 12:44 pm
Lleoliad: Rhywle yn wlad yr hwntw

Postiogan Rhys » Gwe Maw 23, 2007 5:06 pm

Dwi'n meddwl bod y wefan lawr ar hyn o bryd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2175
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhoslyn Prys » Gwe Maw 23, 2007 6:31 pm

Mae'n dda o beth cael yr arolwg yma, mae'n cadarnhau'r dybiaeth gyffredin. Fel gyda phopeth mae angen gwneud y Gymraeg ar y cyfrifiadur yn ddeniadol a'r hyn mae pobl wirioneddol eisiau.

Tydi hynny ddim mor anodd â hynny, buddsoddi tipyn o adnoddau mewn deunydd cyhoeddusrwydd soffistigedig a safonol - product placement ar raglenni S4C hyd yn oed a fyddwn ni wedi dechrau gweld symud.

Felly mae angen joban calon/meddwl. Pwy sydd am wneud - pawb + y Bwrdd.

Mae'n anodd i unigolion ddylanwadu ar y cyfryngau - mae Meddal.com yn gyson yn anfon stwff allan i'r cyfryngau, aelodau etholedig ac ati ond yn cael fawr ddim ymateb, felly mae angen cymryd camau mwy strategol i drafod gyda'n cyfryngau sut mae cydweithio yn y maes yma i godi ymwybyddiaeth a defnydd o'r Gymraeg ar gyfrifiaduron.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau Meh 26, 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig a 0 gwestai