Datblygu - Wyau/Pyst/Libertino

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Datblygu - Wyau/Pyst/Libertino

Postiogan Geraint » Gwe Meh 18, 2004 3:05 pm

Be ddigwyddodd i'r casgliad yma? Odd o fod allan mis Mai.

Dim gair ar http://www.ankst.co.uk/

Dwisho.

A rhywun rhowch gopi i Mwnci Banana Brown :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5802
Ymunwyd: Llun Medi 30, 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan cariadgweno » Gwe Meh 18, 2004 4:30 pm

Mae'n bwysig i'r sin bo hwn yn dod allan t'wel. Ma angen i'r kids gael clywed mwy o stwff o oes aur y sin. Bach o shame really bod lot o'r kids ddim yn cael cyfle i glywed rhywbeth fyddai'n cael nw on side t'wel. Oedd gan Dave Datblygu all the atitude in the world multiplied by ten t'wel. Di'm yn ormod i ddeud bod o fel ryw Iolo Morgannwg neu Gwilym Cowlyd newydd t'mod. Dwi'n cofio mynd i weld John Peel efo plastic bag ag o'n i'n dued "I'm a music agent form Wales." Oedd o'n ranting and raving am Dave. Any way, projects on going....
Bunch of amateurs.
Rhithffurf defnyddiwr
cariadgweno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Maw Ion 06, 2004 3:44 pm

Postiogan Geraint » Sad Meh 19, 2004 1:35 pm

ynde cg :lol:

Rhywun o ankst yma? Ypdet plis?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5802
Ymunwyd: Llun Medi 30, 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan aderynglas » Llun Meh 21, 2004 10:27 pm

dwi mwyn gwbod be sy'n digwydd hefyd. Anfonies i neges i Ankst yn ddiweddar i gofyn am newyddion ond fe ges i ddim ymateb :(
'Edrychwch ar ol eich hunain', cofiwch fod lot ohonom yn meddwl hynny go iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
aderynglas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau Ebr 29, 2004 7:17 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Machlud Jones » Maw Meh 22, 2004 10:48 am

Emyr Ankst isio profi bod o ddim fel gweddill y 'Miserable Nation' sy'n 'obsessed with it's past' siwr o fod. Y peth eironig am y CD yna di bod dau compilation 'Datblygu' a 'Radio Crymi' yn cael eu hysbysebu ar ei gefn. Hefyd ma 2 CD gan MC Mabon sydd heb ryddhau efo Ankst ers blynyddoedd yn cael eu hysbysebu. Pwy sy'n edrych i'r gorffennol drwy'r amser Ems?
Machlud Jones
 

Postiogan Gorwel Roberts » Mer Meh 23, 2004 1:40 pm

Wneith les i bawb glywed athrylith Datblygu - "without a knowledge of your history you are like a cabbage in this society" (Misty in Roots)
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1553
Ymunwyd: Iau Rhag 19, 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Llewelyn Richards » Mer Meh 30, 2004 10:40 am

Y pwynt oedd Emyr Ankst yn ei wneud oedd fod na o ormod o elfen hiraethus sentimental am y Cymry a bod angen newid y drefn a'r feddylfryd. Fe gyfrannodd bandiau Ankst at hynny yn bendant.

Gan nad oes gan Ankst fandiau ar ei lyfrau erbyn hyn, Cds pwy arall ond ei aristiaid yn y gorffennol mae o'n mynd i werthu?
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau Awst 21, 2003 3:28 pm

Re: Datblygu - Wyau/Pyst/Libertino

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer Meh 30, 2004 10:46 am

Geraint a ddywedodd:Be ddigwyddodd i'r casgliad yma? Odd o fod allan mis Mai.

Dim gair ar http://www.ankst.co.uk/

Dwisho.

A rhywun rhowch gopi i Mwnci Banana Brown :winc:


Beth? Pam? Pryd? :?: :ofn: :? :ofn: :? :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad Ebr 17, 2004 4:45 pm
Lleoliad: Blaenffos

Postiogan Machlud Jones » Mer Meh 30, 2004 11:55 am

Llewelyn Richards a ddywedodd:Y pwynt oedd Emyr Ankst yn ei wneud oedd fod na o ormod o elfen hiraethus sentimental am y Cymry a bod angen newid y drefn a'r feddylfryd. Fe gyfrannodd bandiau Ankst at hynny yn bendant.

Ond mae hiraethu sentimental am Datblygu diolch i Emyr Ankst i raddau helaeth am gyhoeddi'r compilation. Felly mae o'n euog o syrthio i'r un trap a'r bobl mae o'n beirniadu am fod yn hiraethus a sentimental. Mae'r cyfnod pan roedd ankst yn newid y drefn bellach yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol gyda deng mlynedd wedi llithro heibio ers i'r label wirioneddol gicio yn erbyn y tresi. Does dim gwahaniaeth rhwng edrych nol a mawrygu oes aur ankst ag edrych nol a mawrygu Edward H neu Jac a Wil neu edrych yn ol hiraethus i gyfnod Manceinion a'r Stone Roses - maent i gyd yn perthyn i'r gorffennol bellach.
Machlud Jones
 

Postiogan Llewelyn Richards » Mer Meh 30, 2004 12:08 pm

Dwi ddim yn meddwl am eiliad bod cyhoeddi compilation Datblygu yn ei gwneud hi'n weithred hiraethus/sentimental. Mae'n gofnod o gyfnod ac amser, ac yn ddarn o hanes ynddo'i hun.

Mae Datblygu wedi newid ffordd llawer iawn o bobl o feddwl am Gymru a Chymreictod sy'n perthyn i rwan/y dyfodol - mwy nag y galli di ddweud am rai o'r bandiau amherthnasol eraill wnest ti nodi.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau Awst 21, 2003 3:28 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig a 0 gwestai